Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 2 o bennod 1 o Ddeddf Addysg 2002 sy'n galluogi Gweinidogion Cymru, ar gais corff cymwys, i eithrio'r corff hwnnw rhag darpariaethau penodol deddfwriaeth addysg. Yn rhinwedd rheoliad 4(2), (3) a (4) y gorchymyn, ni fydd newid Rheoliadau Amserau Sesiynau Ysgolion 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Bydd hyn yn caniatáu i'r corff llywodraethu wneud newidiadau i pryd y bydd sesiynau'r ysgol yn dechrau a gorffen, gan gynnwys pryd y bydd yr ysgol yn dechrau a gorffen, o 1 Mehefin 2015 yn hytrach nag ar ddechrau'r tymor ysgol neu'r flwyddyn. Caiff y gorchymyn effaith tan 31 Awst 2015.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3 gwahoddir y Cynulliad i nodi'r Gorchymyn hwn.
Pennod 1 o Ddeddf Addysg 2002 yw hwyluso gweithredu prosiectau arloesol a allai, ym marn Gweinidogion Cymru, gyfrannu at godi safonau addysgol trwy godi gofynion rheoliadol am gyfnod penodol i hwyluso treialu prosiect arloesol sydd â'r potensial i godi safonau addysgol.
Dengys chwiliad o gronfa ddata ddeddfwriaethol Lexis mai dyma'r tro cyntaf i Weinidogion Cymru arfer y pŵer hwn.
Efallai yr hoffai'r aelodau nodi hefyd, er gwaethaf ei gymhwyso'n lleol, y gwneir y Gorchymyn hwn yn unol â gweithdrefn statudol ffurfiol.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
24 Ebrill 2015